Y Pwyllgor Menter a Busnes 18 Gorffennaf 2013

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd 2014-2020 gan y Gweinidog Cyllid

 

Papur Tystiolaeth

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae’r papur hwn yn darparu tystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddatblygiad rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020 ac yn dilyn fy Natganiad Llafar i’r Aelodau ar 9 Gorffennaf ar yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

2.    Nod rhaglenni’r dyfodol fydd cefnogi twf economaidd a swyddi cynaliadwy yn unol ag Ewrop 2020 a’n Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol.

3.    Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith o ddatblygu’r rhaglenni, mewn partneriaeth, wedi cael ei wneud, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflwyno’r Rhaglenni Gweithredol i’r Comisiwn Ewropeaidd yn yr hydref. 

 

 

Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd a Dyraniadau Cronfeydd Strwythurol

 

4.    Cadarnhaodd Llywyddion Senedd Ewrop a’r Cyngor eu cytundeb gwleidyddol i Gyllideb saith mlynedd (2014-2020) yr Undeb Ewropeaidd ar 19/20 Mehefin. Cadarnhaodd Cyngor y Gweinidogion y cytundeb ar 28 Mehefin ac ar 3 Gorffennaf cymeradwyodd Senedd Ewrop y trefniant gwerth €960 biliwn, nad yw wedi newid ers y cynigion a gytunwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 8 Chwefror 2013.

5.    Yn dilyn trafodaethau rhynglywodraethol mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau yn ddiweddar (27 Mehefin) gynigion ar gyfer dosbarthiad rhanbarthol dyraniadau 2014–2020 sef €2,145 miliwn – sydd €375 miliwn (£312 miliwn) yn fwy na’r dyraniadau dangosol y cytunwyd arnynt ym mis Chwefror.

 

6.    Yn awr mae’r dyraniadau rhanbarthol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig angen cefnogaeth y Comisiwn Ewropeaidd, a bydd yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn eu haddasu i brisiau 2014 gan chwyddo’r symiau 2% y flwyddyn o 2011 i 2014, fel y cytunwyd fel rhan o gynigion cyllideb yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn golygu mai oddeutu £2.01 biliwn (€2,418 miliwn) fydd holl ddyraniad Cymru[1] o’i gymharu â bron £1.9 biliwn (€2,220 miliwn) ar gyfer y rhaglenni cyfredol –  £1.675 biliwn fydd y dyraniad i Orllewin Cymru a’r Cymoedd a £340 miliwn fydd y dyraniad i Ddwyrain Cymru.

7.    Ceisiodd Gweinidogion Cymru sicrhau’r swm mwyaf posibl o arian gael ei gyfeirio i ranbarth Cymru sy’n fwyaf agored i niwed, sef Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, er mwyn sicrhau gweddnewid gwirioneddol. Fodd bynnag mae’r dyraniadau rhanbarthol yn golygu y bydd y rhanbarth mwy llewyrchus, Dwyrain Cymru, yn cael cynnydd o’i gymharu â’r dyraniadau ariannu presennol. Felly byddwn yn ceisio buddsoddi’r cynnydd hwn mewn dyraniadau i sicrhau buddion gweladwy i Orllewin Cymru a’r Cymoedd. 

 

Trafod Pecyn Deddfwriaethol Cronfeydd Strwythurol

 

8.    Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfraniad mawr trwy Gynrychiolaeth Barhaol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd i’r gwaith o ddatblygu’r pecyn deddfwriaethol / rheoliadau drafft i helpu i gyrraedd ein nodau ar gyfer symleiddio ac integreiddio’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl.

9.    Rwyf hefyd yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd gyda Gweinidog Busnes a Menter y Deyrnas Unedig a Gweinidog Ewrop y Deyrnas Unedig ar ddatblygiadau a chydag ASEau Cymru, sydd wedi bod yn arbennig o ddylanwadol yn y cyfnod hwn o’r trafodaethau. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd allweddol megis Cydgyngor Gweinidogion (Ewrop) y Deyrnas Unedig a’r mis diwethaf cyfarfûm â László Andor, y Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant.

 

10. Mae’r trafodaethau ar gynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd bron wedi gorffen ac mae timau trafod y Cyngor, y Senedd a’r Comisiwn wedi cytuno ar fwy na 90% o’r pecyn ‘mewn egwyddor’.

 

11. Mae Llywyddiaeth newydd Lithwania wedi cadarnhau ei hymrwymiad i gwblhau’r trafodaethau cyn gynted ag y bo modd er mwyn i Senedd Ewrop allu pleidleisio ar holl becyn deddfwriaethol y Polisi Cydlyniant ym mis Hydref 2013. 

 

12. Ynghyd â chyllideb yr Undeb Ewropeaidd, mae hon yn garreg filltir hanfodol y mae angen ei chyrraedd er mwyn i’r Comisiwn Ewropeaidd gytuno’n ffurfiol ar Gytundebau Partneriaeth a Rhaglenni Gweithredol cenedlaethol yn yr hydref fel y gall rhanbarthau, gan gynnwys Cymru, ddechrau dyroddi arian yr Undeb Ewropeaidd i brosiectau yn gynnar yn 2014.

 

 

Cytundeb Partneriaeth y Deyrnas Unedig

 

13. Mae cytuno ar Gytundeb Partneriaeth y Deyrnas Unedig gyda’r Comisiwn Ewropeaidd yn gyfrifoldeb Aelod-wladwriaeth (y Deyrnas Unedig). Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n arwain y gwaith o ddatblygu’r Cytundeb Partneriaeth ar y cyd gyda’r Gweinyddiaethau Datganoledig.

14. Bydd gan Gymru Bennod ar wahân yn y Cytundeb Partneriaeth a fydd yn nodi’r dull i’w fabwysiadu wrth ddefnyddio’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESI). Mae Pennod ddrafft Cymru’n cael ei datblygu ar hyn o bryd ac mae’n adlewyrchu casgliadau’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ac adborth oddi wrth y Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd, Grŵp Cynghori y Cynllun Datblygu Gwledig, a’r BIS, ac adborth anffurfiol, defnyddiol, oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd

15. Mae drafft cyntaf o Gytundeb Partneriaeth llawn y Deyrnas Unedig i fod i gael ei rannu gan y BIS gyda’r Comisiwn cyn bo hir. Mae’n bwysig i’r ddogfen hon gael ei mireinio trwy drafodaeth gyda'r Comisiwn ac y deuir i gytundeb yn gynnar gan y bydd unrhyw oedi’n effeithio ar ein gallu i gyflwyno a chytuno ar y rhaglenni ESI drafft ar gyfer Cymru yn barod i’r rhaglenni ddechrau yn gynnar yn 2014.

 

 

Paratoi’r Rhaglenni Gweithredol

 

16. Mae’r gwaith o ddatblygu Rhaglenni Gweithredol y Cronfeydd Strwythurol ar gyfer Cymru yn fanwl ar y gweill ar hyn o bryd ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar 23 Ebrill.

 

17. Ar 9 Gorffennaf, gwneuthum Ddatganiad Llafar ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol.    

 

18. Bydd deialog adeiladol gyda’r Comisiwn Ewropeaidd yn parhau dros yr ychydig fisoedd nesaf i helpu i lyfnhau’r ffordd at gytundeb cynnar i ddechrau ein rhaglenni yn gynnar yn 2014 ar ôl i Gytundeb Partneriaeth y Deyrnas Unedig gael ei lofnodi. Mae’r trafodaethau hyd yma ynghylch y cynigion buddsoddi wedi bod yn gadarnhaol ac mae’r Comisiwn wedi canmol cynnydd Cymru wrth ddatblygu ei rhaglenni newydd mewn partneriaeth. 

 

Trefniadau gweithredu

 

19. Mae WEFO yn alinio gwaith ar ddatblygu’r trefniadau gweithredu (gan gynnwys gwireddu argymhellion Adolygiad Guilford) gyda’r amserlen i gyflwyno Rhaglenni Gweithredol y Cronfeydd Strwythurol i’r Comisiwn Ewropeaidd.

 

20. Un o’r pethau allweddol mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio arnynt yw integreiddio a symleiddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd fel egwyddorion sylfaenol i helpu i weddnewid ein rhagolygon economaidd ar gyfer twf a swyddi yng Nghymru a hefyd i’w gwneud yn haws i sefydliadau ymgysylltu â chronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, gallu manteisio arnynt a chael budd ohonynt.

21. O fewn hyblygrwydd Rheoliadau drafft y Comisiwn Ewropeaidd, bwrir ymlaen â’r ymrwymiad hwn ar lawer o lefelau, gan gynnwys:

·         gwaith y Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd wrth ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu’r rhaglenni ESI yn y dyfodol a’r cydymgynghoriad cyhoeddus diweddar;

·         datblygu Pennod Cymru fel rhan o Gytundeb Partneriaeth y Deyrnas Unedig;

·         sefydlu un Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru ar gyfer Cronfeydd Strwythurol a Datblygu Gwledig a reolir gan Lywodraeth Cymru;

·         cytundeb y dylai’r Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd a argymhellwyd fel rhan o Adolygiad Guilford dynnu sylw at gyfleoedd economaidd ar gyfer yr holl gronfeydd ESI; a

·         datblygu un porth i fanteisio ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd a, lle bo’n bosibl, prosesau a chanllawiau ymgeisio cyffredin a threfniadau cyffredin ar gyfer diwydrwydd dyladwy ac arfarnu, dangosyddion perfformiad a monitro.

 

Un Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru

 

22. Bydd un Pwyllgor Monitro Rhaglen yn golygu asesiad mwy cyfannol fyth o effaith ac effeithiolrwydd y cronfeydd o’u cymharu â’r Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd newydd a gwybodaeth monitro a argymhellwyd gan Dr Guilford

 

23. Mae trefniadau ar y gweill ar hyn o bryd i benderfynu ar Aelodaeth yr un Pwyllgor Monitro Rhaglen - gan gynnwys proses penodiadau cyhoeddus a gyhoeddir yn yr wythnos yn dechrau 8 Gorffennaf - fel y gellir sefydlu’r Pwyllgor yn hwyr yn 2013 er mwyn cymeradwyo’r meini prawf dethol prosiectau ar y cyfle cyntaf posibl. Bydd hyn yn golygu y gellir gwneud y penderfyniadau ynglŷn â chymeradwyo’r prosiectau cyntaf a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd o ddechrau 2014 ymlaen.

Adolygiad Guilford o’r Trefniadau Gweithredu

 

24. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pedwar ar ddeg o argymhellion a nodwyd yn Adolygiad Dr Guilford. Hefyd cymeradwyodd y Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd, sy’n cynrychioli’r prif randdeiliaid ar gyfer cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, Adroddiad Dr Guilford ym mis Ebrill.

25. Argymhelliad canolog Dr Guilford yw i WEFO ddatblygu Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd ar draws y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd i helpu i gyfarwyddo’r ffordd y defnyddir y cronfeydd ESI er mwyn sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer mwy o integreiddio ac i helpu i ysgogi synergeddau rhwng strategaethau a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru. 

 

26. Mae swyddogion WEFO yn gweithio gyda chydweithwyr yn adrannau polisi Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd, wrth ddatblygu’r Fframwaith. Mae i fod i gael ei gyhoeddi yn yr hydref ac, fel dogfen fyw, bydd yn cael ei diweddaru drwy gydol cyfnod y rhaglen er mwyn adlewyrchu newidiadau i’r amgylcheddau economaidd a strategol, cyfleoedd economaidd sy’n dod i’r amlwg, a’r cynnydd a wneir o ran rhoi’r rhaglenni ar waith

 

 

Strategaeth Arloesi Cymru

 

27. Mae’n un o amodau arian ESI yn y dyfodol bod strategaeth ‘Arbenigo Craff’ yn sylfaen i fuddsoddi mewn ymchwil, datblygiadau technolegol ac arloesi. Cyhoeddwyd ‘Fersiwn Adolygu’ o Arloesi Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2103, yn dilyn proses ymgynghori ac yn cynnwys cyngor Grŵp Gorchwyl a Gorffen allanol a gadeiriwyd gan yr Athro Kevin Morgan. Mae’r Strategaeth Arloesi hon, ynghyd â ‘Gwyddoniaeth i Gymru’, yn ffurfio Strategaeth Arbenigo Craff Cymru, ac mae wedi cael ei chynllunio i fodloni’r rhag-amod a ddisgrifir uchod.

 

28. Ar ôl i’r strategaeth gael ei chyhoeddi, aeth swyddogion o Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i sesiwn adolygiad gan gymheiriaid o Blatfform Arbenigo Craff y Comisiwn Ewropeaidd ynghyd â chynrychiolwyr o nifer o adrannau’r Comisiwn a sawl rhanbarth arall yn Ewrop. Barnodd y platfform fod proses ymgynghori ac ymgysylltu Llywodraeth Cymru’n enghraifft o ymarfer da a bod Cymru wedi mynd cryn dipyn o’r ffordd yn y broses o ddatblygu polisi.

 

29. Hefyd mae cyfraniadau oddi wrth nifer o adrannau eraill Llywodraeth Cymru wedi dod i law ac yn cael eu cynnwys yn Arloesi Cymru gyda golwg ar gynhyrchu fersiwn derfynol yn haf 2013.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] Ar sail cyfradd Cynllunio WEFO, sef £1:€1.20